Llygredd aer yw pan fo aer yn cael ei halogi gan sylweddau niweidiol sy’n gallu achosi problemau iechyd. Gallant wneud i’r llygaid a'r trwyn losgi, achosi llid yn y gwddf, problemau anadlu, a hyd yn oed marwolaeth gynnar. Gall llygredd aer gael effaith negyddol ar yr amgylchedd hefyd.
Dyma esboniad o rai o’r cemegau sy’n llygru’r aer:
Nitrogen Deuocsid (NO2)
Nwy lliw coch/brown yw nitrogen deuocsid ac mae iddo arogl sur ac annymunol. Mae NO2 yn cynnwys un atom nitrogen a dau atom ocsigen fel y gwelir yn y diagram. Mae’n llygrydd eilaidd ac yn cael ei greu pan fydd ocsid nitraidd (NO) - sy’n cael ei ffurfio yn y broses hylosgi - yn adweithio gydag ocsigen yn yr atmosffer.
Diffiniad: Llygrydd cynradd yw llygrydd aer sy’n cael ei allyrru’n uniongyrchol o ffynhonnell. Nid yw llygrydd eilaidd yn cael ei allyrru’n uniongyrchol mewn cyfansymiau mawr, ond mae’n ffurfio pan fydd llygryddion eraill (llygryddion cynradd) yn adweithio yn yr atmosffer.
Y ffynonellau mwyaf o NO2 yng Nghymru yw llosgi tanwydd ffosil (glo, olew, nwy, petrol a diesel) ar gyfer gwresogi cartrefi, cynhyrchu pŵer a thrafnidiaeth ffordd.
Gall NO2 gael ei ffurfio’n naturiol yn yr atmosffer gan fellt ac mae’n gallu cael ei gynhyrchu gan blanhigion hefyd; er mai dim ond cyfran fach o’r holl NO2 yn yr atmosffer sydd wedi cael ei ffurfio’n naturiol.
Oson (O3)
Nwy glas golau iawn, di-liw bron, yw oson ac mae’n cynnwys tri atom ocsigen wedi’u cysylltu â’i gilydd. Mae ganddo arogl unigryw mewn crynodiadau uchel.
Nwy sy’n digwydd yn naturiol yn haenau uchaf yr atmosffer, rhwng 10 a 30 milltir uwchlaw wyneb y ddaear, yw oson ac mae’n amddiffyn y ddaear rhag pelydrau uwchfioled niweidiol yr haul. Mae’n siŵr y byddwch wedi clywed sôn amdano fel yr haen oson.
Fodd bynnag, ar y ddaear, mae oson yn llygrydd aer eilaidd niweidiol. Caiff oson ei greu gan adweithiau cemegol rhwng allyriadau o gyfleusterau diwydiannol, egsôsts cerbydau a hydoddion cemegol yng ngolau’r haul. Mae ocsidau nitraidd (NO2 ac NO) a chyfansoddion organig anweddol (VOC) yn adweithio ym mhresenoldeb golau’r haul i gynhyrchu oson. Gall oson a’r prif lygryddion sy’n arwain at ei gynhyrchu gael eu cludo dros bellteroedd hir e.e. o gyfandir Ewrop.
Yng Nghymru, oson yw’r achos mwyaf cyffredin o broblemau ansawdd aer mewn ardaloedd gwledig. Mae’r llygredd oson ar ei uchaf yn yr haf ar ddiwrnodau poeth, heulog heb wynt.
Mae oson ar lefel y ddaear yn niweidiol i iechyd, mae’n gallu cael effaith amlwg ar iechyd, gan achosi asthma, achosi problemau anadlu, lleihau gweithrediad yr ysgyfaint ac achosi clefydau’r ysgyfaint o bosibl. Mewn crynodiadau digon uchel, mae oson yn niweidiol i blanhigion a choed hefyd. Gall oson gyrydu deunyddiau adeiladu, cofebion a nodweddion craig naturiol yn y dirwedd hefyd.
Sylffwr deuocsid (SO2)
Caiff sylffwr deuocsid ei gynhyrchu pan fydd deunydd, neu danwydd, sy’n cynnwys sylffwr ei losgi. Mae’n nwy sy’n gysylltiedig ag ardaloedd diwydiannol, yn enwedig prosesau diwydiannol fel llosgi tanwydd (glo ac olew).
Mae sylffwr deuocsid yn nwy di-liw ac mae’n drewi’n annifyr. Mae SO2 yn cynnwys un atom sylffwr a dau atom ocsigen. Mae’n adweithio gyda chemegau eraill i ffurfio cyfansoddion niweidiol fel asid sylffwrig (H2SO4) sy’n gallu achosi glaw asid.
Gall SO2 gael ei ffurfio’n naturiol a’i allyrru gan losgfynyddoedd neu o darddellau poeth geothermol. Gall allyriadau o losgfynyddoedd fel y rhai a echdorrodd yng Ngwlad yr Iâ yn 201o deithio miloedd o filltiroedd – nid allyriadau lleol yn unig sy’n effeithio ar eich amgylchedd.
Mae ffynonellau cyfredol o SO2 yng Nghymru yn deillio o brosesu a llosgi deunyddiau sy’n cynnwys sylffwr fel cynhyrchu trydan o lo ac olew mewn gorsafoedd pŵer ac o brosesau hylosgi fel llosgi tanwydd solet ac yn arbennig mewn diwydiant. Gall gorsafoedd pŵer glo ac olew mwy newydd fod â systemau i waredu cyfrannau mawr o SO2. Gall allyriadau morgludiant fod yn ffynhonnell bosibl o SO2 mewn ardaloedd arfordirol prysur.
Carbon Monocsid (CO)
Nwy heb liw nac arogl yw carbon monocsid ac mae fymryn yn llai dwys nag aer. Mae’n cynnwys 1 atom carbon ac 1 atom ocsigen.
Caiff CO ei gynhyrchu pan na fydd tanwyddau seiliedig ar garbon, yn cynnwys petrol, diesel, nwy, olew, pren a glo yn llosgi’n llwyr (h.y. nid oes digon o ocsigen er mwyn i bob atom carbon allu cyfuno gyda dau atom ocsigen). Yn y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, caiff CO ei gynhyrchu’n bennaf gan drafnidiaeth ffordd, yn enwedig cerbydau petrol.
Os oes gennych chi foeler neu dân tanwydd solet neu nwy neu system wresogi arall nad yw’n drydanol, mae’n bosib bod gennych synhwyrydd/larwm CO i rybuddio ynghylch allyriadau CO os nad yw’r ddyfais yn gweithio’n iawn. Gall allyriadau CO ladd mewn munudau o’u hanadlu i mewn. Gall cyfog neu deimladau o ddryswch fod yn symptomau cynnar. Mae tanwyddau carbon yn ddiogel i’w defnyddio ar y cyfan – dim ond pam nad yw’r tanwydd yn llosgi’n llwyr fel bod CO yn cael ei gynhyrchu yn lle CO2 sy’n cael ei ffurfio pan fydd yr hylosgi yn gyflawn (h.y. ym mhresenoldeb digon o ocsigen).
Gall CO effeithio ar gludiant ocsigen yn y gwaed a lleihau’r cyflenwad ocsigen i’r galon, yn enwedig ymhlith pobl sy’n dioddef o glefyd o galon.
Deunydd Gronynnog (PM10 and PM2.5)
Mae Deunydd Gronynnog yn cynnwys amrywiaeth eang o ronynnau, rhai sy’n digwydd yn naturiol ac eraill sy’n cael eu creu. Gronynnau sy’n digwydd yn naturiol yw tywod a halen y môr, tra bod eraill yn cael eu creu gan adweithiau cemegol yn yr atmosffer neu eu rhyddhau drwy allyriadau traffig.
Pan fydd gwyddonwyr yn sôn am ronynnau, maen nhw fel arfer yn eu rhannu’n ddau brif grŵp, yn dibynnu ar faint y gronynnau. PM10 yw’r term a roddir i grŵp o ronynnau hyd at 10 micron mewn maint. Mae PM2.5 yn cyfeirio at y grŵp o ronynnau llai hyd at 2.5 micron mewn maint. Er mwyn rhoi syniad o faint, mae blewyn dynol 50-70 micron mewn diamedr felly mae’n bum i saith gwaith yn fwy nag un gronyn PM10 a dros ugain gwaith yn fwy na gronyn PM2.5. Mae micronau yn fach eithriadol - mae 1 micron yr un faint ag un milfed milimetr! Mae’r diagram yn dangos sut mae gronynnau PM10 a PM2.5 yn cymharu o ran maint.
Mae PM2.5 yn cynnwys gronynnau mwy mân na PM10 yn cynnwys cyfansoddion organig a rhai metelau. Mae’r mân allyriadau hyn yn cael eu hallyrru gan bob math o gerbydau a rhai prosesau diwydiannol. Mae ffynonellau eraill yn cynnwys ffynonellau naturiol fel tanau coedwig/gwyllt.
Mae’r gronynnau sy’n cyfrif fel PM10 yn cynnwys gronynnau PM2.5 ond maent hefyd yn cynnwys gronynnau mwy bras yn cynnwys llwch, paill a llwydni. Gall y gronynnau hyn gael eu cynhyrchu gan weithgarwch dynol drwy drafnidiaeth ffordd, trenau diesel, morgludiant, diwydiant a llosgi tanwydd solet neu ronynnau sy’n bodoli’n naturiol fel tywod a halen môr.
Mae’r gronynnau llai yn ysgafnach felly maen nhw’n gallu aros yn yr atmosffer am fwy o amser a theithio ymhellach. Gall gronynnau PM10 aros yn yr aer am funudau neu oriau tra bod gronynnau PM2.5 yn gallu aros yn yr awr am ddiwrnodau neu wythnosau.