Gall ansawdd aer gwael gael effeithiau tymor byr a thymor hir ar bobl o bob oed. Mae’r tabl isod yn amlinellu effeithiau llygryddion gwahanol ar lefelau uchel iawn.
Llygrydd | Effeithiau iechyd ar lefelau uchel iawn |
---|---|
Carbon Monocsid (CO) | Mae Carbon Monocsid yn lleihau faint o ocsigen sy’n cael ei gludo o amgylch y corff yng nghelloedd coch y gwaed. O ganlyniad, nid yw organau hanfodol, fel yr ymennydd, meinweoedd nerfol a’r galon, yn cael digon o ocsigen i weithio’n iawn. Mae’r risg yn arbennig o fawr i blant am eu bod nhw’n llai a bod eu cyrff yn tyfu ac yn datblygu o hyd. Mae’n debygol o effeithio ar bobl â phroblemau’r galon hefyd. |
Nitrogen Deuocsid (NO2) |
Mae’r nwyon hyn yn achosi llid i leinin y trwyn, y pibellau anadlu a’r ysgyfaint. Maent yn cynyddu symptomau’r rheini sy’n dioddef o glefydau’r ysgyfaint ac yn cynyddu’r tebygolrwydd o broblemau resbiradol. |
Gronynnau | Gall gronynnau mân achosi nifer o broblemau iechyd wrth iddynt gael eu cludo’n ddwfn i’r ysgyfaint. |