Mae nifer y safleoedd monitro yng Nghymru wedi cynyddu’n fawr yn y blynyddoedd diwethaf. Er bod hyn yn helpu i wella ein dealltwriaeth o ansawdd aer ledled y wlad, fe allai gymhlethu’r ymchwiliad i’r modd mae ansawdd aer wedi newid dros amser. Os yw ymchwiliadau o’r fath yn seiliedig ar yr holl ddata sydd ar gael, gall bylchau a thueddiadau ffug ymddangos oherwydd newidiadau yng nghyfansoddiad y rhwydwaith. Felly, yn yr adroddiad hwn, mae ymchwiliad i’r newidiadau yn seiliedig ar is-setiau o safleoedd hirhoedlog yn hytrach na phob safle yn y rhwydwaith. Dylai hyn arwain at asesiad mwy cadarn.
Nitrogen Deuocsid
Yng Nghymru (a gweddill y DU), y gwerth terfyn yr eir y tu hwnt iddo amlaf yw crynodiad nitrogen deuocsid cymedrig blynyddol (NO2) (40µg m-3). Mae'r ffigur isod yn dangos sut mae'r crynodiadau NO2 cymedrig blynyddol wedi amrywio dros amser.
Mae’r safleoedd cefndir trefol yn cael eu cynrychioli gan y safle cefndir trefol mwyaf hirhoedlog (Canol Caerdydd (ers 1992)), ac is-set o bedwar safle hirhoedlog sydd ar waith ers 2003, sy’n llwyddo i gasglu o leiaf 50% o ddata bob blwyddyn: Canol Caerdydd, Cwmbrân, St Julians Casnewydd, Port Talbot (a ddisodlwyd gan safle cyfagos Margam Port Talbot yn 2007 - mae dau safle Port Talbot yn cael eu hystyried fel un at ddibenion y graff hwn). Mae Canol Caerdydd yn dangos gostyngiad clir o 1992 i 2018. Mae'r cymedr ar gyfer y safleoedd cefndir trefol hirhoedlog yn dangos gostyngiad o 2003 i 2018, er bod 2010 yn flwyddyn uwch.
Mae’r safleoedd traffig trefol (rhai o fewn 10m i ffordd fawr) yn cael eu cynrychioli gan y safle ymyl ffordd mwyaf hirhoedlog (Treforys Abertawe (ers 2001)), ac is-set o ddau safle hirhoedlog sydd ar waith ers 2002 – Treforys Abertawe a Wrecsam. Mae'r lleoliadau traffig trefol yn dangos gostyngiad llai sylweddol ond amlwg o grynodiad NO2 dros y blynyddoedd diwethaf, yn benodol mae 2018 yn edrych fel blwyddyn isel.
Deunydd Gronynnol
Mae'r ffigur isod yn dangos sut mae'r crynodiadau cymedr blynyddol o gronynnau hyd at10 μm o faint (PM10) wedi gostwng ar y cyfan dros y blynyddoedd diwethaf, mewn safleoedd cefndir trefol a thraffig trefol.
Cynrychiolir safleoedd trefol nad ydynt yn ymyl ffordd gan lefelau cymedrig tri safle hirsefydlog ers 2001 (Canol Caerdydd, Cwmbrân a Phort Talbot/Margam Port Talbot - unwaith eto, mae’r ddau olaf yn cael eu trin fel un safle i’r diben hwn). Nodwch fod Port Talbot/Margam Port Talbot yn cael ei ddosbarthu fel safle diwydiannol trefol yn hytrach na safle cefndir trefol, gan ei fod yng nghyffiniau gwaith dur mawr. Cafodd ei gynnwys gan mai ychydig iawn o safleoedd trefol hirsefydlog nad ydynt yn ymyl ffordd sydd ar gael.
Dangosir safle Canol Caerdydd (sydd ar waith ers mwy o amser nag unrhyw safle arall) yn unigol hefyd. Mae’r holl safleoedd yn casglu o leiaf 70% o ddata bob blwyddyn, ac eithrio Canol Caerdydd yn 2010.
Canlyniadau cymedrig dau safle hirsefydlog ers 2002 – Nantgarw Rhondda-Cynon-Taf a Wrecsam – sy’n cynrychioli safleoedd traffig trefol. Dangosir Wrecsam (y safle traffig mwyaf hirsefydlog) yn unigol hefyd.
Osôn
Mae’r crynodiadau osôn yn dueddol o fod ar eu huchaf mewn lleoliadau gwledig. Mae'r ffigur isod yn dangos crynodiadau osôn cymedrig sut blynyddol wedi newid dros amser. Mae’n seiliedig ar y crynodiad cymedrig a fesurwyd gan dri safle hirsefydlog yng Nghymru (llinell ddu ar y graff): Aston Hill, Marchlyn Mawr ac Arberth. Mae’r tri ar waith ers 2003 neu gynt, ac yn casglu o leiaf 70% o ddata. Hefyd, dangosir Aston Hill ar ei ben ei hun: safle sydd wedi monitro lefelau osôn ers diwedd yr 1980au. Er nad oes unrhyw dueddiadau amlwg i’w gweld, mae’r crynodiadau yn amrywio’n fawr o flwyddyn i flwyddyn oherwydd amrywiad mewn ffactorau tywydd.