Mae Llywodraeth Cymru a Fforwm Ansawdd Aer Cymru yn cydweithio’n agos ag arbenigwyr ansawdd aer ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU (Defra), er mwyn monitro a lleihau llygredd aer yng Nghymru. Mae'r ffigur isod yn dangos y tueddiadau hirdymor ar gyfer crynodiadau nitrogen deuocsid, deunydd gronynnol hyd at 10 μm o ran maint (PM10) ac osôn yng Nghymru. Mae’n dangos bod y crynodiadau llygredd wedi gwella’n gyson ers y 1990au heblaw am osôn. Gan fod osôn yn llygrydd rhanbarthol sy’n croesi ffiniau ni all Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol ei reoli’n uniongyrchol.
Monitro gan Awdurdodau Lleol
Mae’r gwaith o fonitro ansawdd aer yng Nghymru’n cael ei wneud gan Awdurdodau Lleol a thrwy rwydweithiau cenedlaethol a reolir gan Lywodraeth Cymru. Mae dau brif ddull o fonitro llygredd aer: monitro awtomatig a samplu goddefol. Mae monitro awtomatig yn defnyddio technegau dadansoddi parhaus i fesur a chofnodi crynodiadau amgylchynol o amrywiaeth o lygryddion aer. Mae samplwyr goddefol (e.e. tiwbiau tryledu) yn cynnwys adweithydd cemegol sy’n adsugno llygryddion o’r aer. Mae samplwyr yn cael eu defnyddio am gyfnod a’u dadansoddi yn y labordy. Ar ddechrau 2018, roedd cyfanswm o 41 o safleoedd monitro awtomatig wedi’u dosbarthu ledled y wlad a weithredir gan Awdurdodau Lleol, erbyn diwedd 2018 roedd hyn wedi gostwng i 39 o safleoedd.
Mae’r safleoedd hyn yn cynnwys offer sy’n mesur carbon monocsid, ocsidau nitrogen, sylffwr deuocsid, osôn, PM10 a deunydd gronynnol hyd at 2.5 µm o ran maint (PM2.5) yn awtomatig. Yn ogystal â’r rhain, roedd cannoedd o diwbiau tryledu yn mesur lefelau nitrogen deuocsid cymedrig misol. Y gyfradd casglu data ar gyfer yr offer awtomatig a weithredwyd gan Awdurdodau Lleol yn ystod y flwyddyn oedd 87%.
Yn 2018, roedd crynodiadau amgylchynol PM10 yn 'gymedrol' ar 35 diwrnod, yn 'uchel' ar 5 diwrnod. Ni chafwyd unrhyw ddiwrnodau 'uchel iawn' (fel y'u diffinnir gan y bandiau Mynegai Ansawdd Aer Dyddiol). O ran NO2, roedd 23 diwrnod gyda chrynodiadau 'cymedrol ', 1 diwrnod gyda lefelau 'uchel' ac ni chofnodwyd unrhyw ddiwrnodau fel rhai 'uchel iawn’. O ran SO2, ni chofnodwyd lefelau 'cymedrol ', 'uchel' nac 'uchel iawn'. Yn achos O3, roedd 55 diwrnod gyda lefelau 'cymedrol' ac nid oedd unrhyw ddiwrnodau a gofnodwyd yn 'uchel' nac yn 'uchel iawn' – fel y mesurwyd gan y safleoedd monitro a weithredir gan awdurdodau lleol. Ar y cyfan, roedd lefelau llygredd yng Nghymru yn isel am 263 diwrnod, yn gymedrol am 96 diwrnod, yn uchel am 6 diwrnod. Nid oedd unrhyw ddyddiau uchel iawn. Felly, am 72% o'r amser, roedd lefelau llygredd yn isel ar draws Cymru gyfan. Gellir dod o hyd i fanylion system fandio y Mynegai Ansawdd Aer Dyddiol a ddefnyddir i ddisgrifio lefelau llygredd ar gyfer y cyhoedd yn ystod 2018 yn https://airquality.gov.wales/cy/about-air-quality/daily-air-quality-index
Crynodeb o Ormodiant
Mae ystadegau ynghylch crynodiadau uwch na'r terfyn a gynhyrchir o'r wefan Ansawdd Aer Cymru yn dangos nad oedd unrhyw safleoedd monitro yng Nghymru yn uwch na'r terfyn ar unrhyw rai o'r Amcanion Strategaeth Ansawdd Aer (AQS) (neu werthoedd terfyn UE cyfatebol) ar gyfer CO, SO2, bensen (C6H6) neu blwm (Pb) yn ystod 2018.
Aeth pedwar safle monitro yng Nghymru (Rhondda Aberpennar, Hafodyrynys Caerffili, Cyffordd 25 yr M4 Casnewydd a Chwrt yr Orsaf Stryd Fawr Abertawe) yn uwch na therfyn yr amcan cymedrig blynyddol o 40µg m-3 ar gyfer NO2. Aeth Hafodyrynys Caerffili hefyd y tu hwnt i Amcan y Strategaeth Ansawdd Aer ar gyfer crynodiad nitrogen deuocsid cymedrig yr awr ar fwy na’r 18 achlysur a ganiateir yn 2018.
Roedd wyth safle yng Nghymru yn uwch na'r amcan ar gyfer O3 (100 µg m-3 fel uchafswm cymedr 8 awr dyddiol) ar fwy na'r 10 achlysur a ganiateir. Y rhain oedd Aston Hill, Canol Caerdydd, Cwmbrân, Arberth, Margam Port Talbot, Parc Cwm Level Abertawe, Ymyl y ffordd Treforys Abertawe, DOAS Abertawe St Thomas. Mae'r crynodiadau uwch na'r terfyn hyn yn fwyaf tebygol o ganlyniad i'r tywydd poeth hirfaith yn haf 2018.