Potensial Cynhesu Byd-eang (GWP) wedi’i ddiffinio ar haenlin 100 mlynedd (IPPC, 2007)
Nwy Tŷ Gwydr | GWP | Prif Ffynhonnell | |
---|---|---|---|
Anwedd dŵr | Heb ei gyfrifo | Gwerthuso crynofeydd dŵr | |
Carbon deuocsid | 1 | Hylosgi tanwyddau ffosil | |
Methan | 25 | Amaethyddiaeth, gwaredu gwastraff, gollyngiadau o’r system dosbarthu nwy a chloddio am lo | |
Ocsid Nitrus | 298 | Amaethyddiaeth, trafnidiaeth, prosesau diwydiannol a hylosgi glo | |
Oson | Heb ei gyfrifo | Llygrydd eilaidd a ffurfir yn yr atmosffer gan adweithiau cemegol gyda llygryddion eraill, a sbardunir gan olau'r haul | |
Nwyon-F | HFCs | 124-14,800 | Oeri ac aerdymheru, chwythu sylweddau, erosolau, switsus rheoli trydanol, nwyon “gorchudd” wrth fwyndoddi metel |
PFCs | 9,390-12,200 | ||
SF6 | 22,880 | ||
NF3 | 17,200 |
Mae nwyon tŷ gwydr yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor gan broses a elwir yn effaith tŷ gwydr.
Yn ystod y dydd, mae wyneb y Ddaear yn amsugno ynni golau a gwres (pelydriad isgoch) o'r haul ac yn ei ryddhau eto'n araf dros amser. Mae nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer yn amsugno'r pelydriad isgoch ac yn ei ryddhau am yr ail waith i bob cyfeiriad, gan gynnwys dros wyneb y Ddaear. Felly, mae gwres yn cael ei ddal yn lefelau isaf y troposffer, gan achosi cynhesu a thymheredd sy'n uwch na'r hyn a fyddai'n arferol pe na bai nwyon tŷ gwydr.
Mae'r nwyon tŷ gwydr uniongyrchol yn amrywio o safbwynt eu gallu i newid cydbwysedd ymbelydrol, sy'n mesur yr effaith sydd gan ffactor wrth newid cydbwysedd ynni sy'n dod i mewn ac sy'n gadael atmosffer y ddaear. Mae Potensial Cynhesu Byd-eang (GWP) yn ffordd syml o fesur effeithiau ymbelydrol cymharol allyriadau'r amrywiol nwyon. Diffinnir y mynegai fel y grym cronedig yn y cydbwysedd ymbelydrol rhwng yr haenlin presennol ac ar adeg yn y dyfodol a achosir gan uned fàs o nwy a ollyngir yn awr, wedi'i fynegi o'i gymharu â CO2. Mae angen diffinio haenlin amser gan fod hyd oed y nwyon â gwahanol hyd oes yn yr atmosffer. Mae rhestri Nwyon Tŷ Gwydr Cenedlaethol yn defnyddio haenlin amser o 100 mlynedd.