Lleihau’ch ôl troed carbon

Mae eich ôl troed carbon yn mesur faint o garbon deuocsid sy'n cael ei ryddhau i'r atmosffer yn sgil eich gweithgareddau dyddiol. Gall pob unigolyn wneud mân newidiadau i'w arferion dyddiol, gan fod pob dim yn cyfri. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgyrch i gyfrifo a lleihau ôl troed carbon Cymru.

Gall gweithio i leihau’ch ôl troed carbon arwain at lawer o fanteision. Nid yn unig y byddwch yn arafu'r newid yn yr hinsawdd ac yn achub y blaned, ond byddwch hefyd yn debygol o arbed arian a byw bywyd mwy heini ac iach wrth newid eich ffordd o fyw. Darllenwch fwy i ganfod sut....

  • Newidiwch bob bwlb golau safonol am rai ynni isel. Maent yn para hyd at ddeg gwaith yn fwy ac yn defnyddio llai o drydan
  • Rhowch ddeunydd inswleiddio yn eich cartref fel bod yr ynni rydych yn talu amdano yn gwresogi eich cartref, nid y stryd y tu allan i'ch tŷ
  • Trowch eich thermostat i lawr a gwisgwch siwmper. Byddai 1°C yn llai ym mhob cartref yng Nghymru yn arbed £50 miliwn mewn biliau gwresogi
  • Dewiswch dymheredd o 30°C ar gyfer eich peiriant golchi dillad (mae powdwr golchi modern yn gweithio'n dda ar y tymheredd hwn) a sychwch eich dillad yn yr awyr iach yn hytrach na defnyddio'r peiriant sychu dillad
  • Peidiwch â phrynu cynnyrch a bwyd sydd â llawer o ddeunydd pacio, a gofalwch eich bod yn ailgylchu gwydr, papur, cardfwrdd, plastig a ffoil alwminiwm
  • Ceisiwch ddefnyddio llai o ddŵr yn y gegin, ystafell ymolchi ac wrth ddyfrio'r ardd. Mae cael cawod yn well na chymryd bath, a bydd dewis rhaglen economi ar eich peiriant golchi dillad neu olchi llestri yn helpu hefyd
  • Dechreuwch ddefnyddio'ch bagiau eich hunain yn yr archfarchnad ac os oes rhaid i chi ddefnyddio bag plastig, cofiwch ei ddefnyddio eto’r tro nesaf yr ewch allan i siopa
  • Cerddwch neu seiclwch wrth fynd ar deithiau byr a defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau hirach. Os nad yw hynny'n bosibl, ystyriwch rannu car i arbed arian a lleihau'ch ôl troed carbon
  • Ceisiwch fwyta llai o gig coch a chynhyrchion llaeth yn eich diet – mae ffermio da byw, a gwartheg yn benodol, yn un o brif ffynonellau allyriadau nwyon tŷ gwydr.