Proses gadarnhau

Y Broses Dilysu a Chadarnhau Datas

Mae'n bwysig bod defnyddwyr cronfa Ddata Ansawdd Aer Cymru yn gallu defnyddio'r data gorau posibl bob amser. I'r perwyl hwn mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyflwyno system gynhwysfawr i adolygu a diweddaru data yn awtomatig ac llaw ar gyfer Rhwydweithiau Monitro Ansawdd Aer Cymru fel y disgrifir isod.

Nid yw'r broses Sicrhau Ansawdd a Rheoli Ansawdd (QA/QC) ar hyn o bryd yn ymdrin rhai gorsafoedd monitro a weithredir gan awdurdodai lleol yn y gronfa ddata. Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw cywirdeb y data, a bydd canlyniadau yn dal i gael eu cyhoeddi yn y gronfa ddata fel "provisional" neu "supplied".

Darparu data "Amser Real"

Mae canlyniadau monitro cymedr bob awr o Rwydwaith Trefol a Gwledig Awtomatig y DU (AURN) yn cael eu lanlwytho i'r gronfa ddata fel data amodol bob awr. Mae'r ffigurau hyn yn destun rhywfaint o sgrinio sylfaenol er mwyn peidio chynnwys data sy'n amlwg yn ddiffygiol cyn belled phosibl. Fodd bynnag, amcan yr ymarfer yw darparu data ar gyfer pryderon iechyd dynol ar sail amser real mwy neu lai, felly mae'n hanfodol bod y gwiriadau'n awtomatig a chyflym. Mae hyn yn golygu na ellir cwblhau gweithdrefnau QA/QC llawn ac mae'r data felly yn debygol o fod yn llai cywir a dibynadwy na'r hyn sydd ei angen ar gyfer yr adroddiad terfynol. Mae data ac ystadegau amodol yn cael eu nodi'n glir gyda baner yn y gronfa ddata i nodi eu statws.

Ymdrinnir data amodol o safleoedd nad ydynt yn safleoedd monitro AURN yng Nghymru gan yr un prosesau sgrinio 'r AURN ond maent yn cael eu lanlwytho i'r gronfa ddata yn llai aml, 4 neu 5 gwaith y dydd fel arfer yn hytrach na phob awr.

Yn dilyn cyhoeddi data amodol cychwynnol, mae angen i ddata monitro awtomatig fynd trwy o leiaf ddau gam arall er mwyn bodlonir safonau angenrheidiol ar gyfer rhwydweithiau Monitro Ansawdd Aer Cenedlaethol.

Dilysu a Chadarnhau Data

Cyflawnir y gwaith Dilysu Data yn barhaus, ac yn y bn, proses yw i "lanhau.r" data amodol cychwynnol. Mae unrhyw gywiriadau a wneir i'r data yn ystod y broses ddilysu yn cael eu lanlwytho'n awtomatig (fel DATA AMODOL bryd hyn) i Gronfa Ddata Ansawdd Aer Cymru er mwyn i ddefnyddwyr gael gafael arno. Mae'r broses yn cynnwys:

  • Adolygu'r data ymhellach llaw er mwyn peidio chynnwys unrhyw ddata gan offerynnau diffygiol neu galibradau diffygiol.
  • Cynnwys unrhyw ddata a oedd ar goll i ddechrau o ganlyniad i fethu chyfathrebu .r orsaf fonitro.
  • Diweddariadau i raddio data yn dilyn cymhwyso'r ffactorau calibreiddio mwyaf diweddar.

Mae Cadarnhau Data yn wiriad llaw manwl o'r set ddata a gyflawnir bob chwarter ar gyfer AURN, a bob chwe mis i'r safleoedd hynny nad ydynt yn safleoedd AURN yng Nghymru sy'n mynd trwy'r broses QA/QC lawn. Mae'n gofyn am olwg tymor hirach ar y set ddata yn cynnwys canlyniadau archwiliadau QA/QC annibynnol o'r gorsafoedd monitro.

Mae'r gwaith o gadarnhau data yn adolygu'r holl ddata calibreiddio, gwybodaeth o waith gwasanaethu ac atgyweirio dadansoddwr ac unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael ar gyfer safle neu ddadansoddwr arbennig yn ystod y cyfnod cadarnhau llawn. Hefyd mae canlyniadau archwiliadau QA/QC yn annibynnol yn cael eu cynnwys i ystyried unrhyw broblemau a ganfuwyd yn ystod yr archwiliadau QA/QC megis:

  • Newid graddol hirdymor yng nghalibrad offerynnau oson.
  • Trawsnewidwyr NOx diffygiol.
  • Newid graddol yng nghrynodiadau silindr calibreiddio.
  • Offerynnau'n gollwng neu lif diffygiol.
  • Offer wedi'i ffurfweddu'n anghywir.

Mae cynnwys archwiliadau QA/QC y sicrhau y gellir olrhain data wedi'i gadarnhau i safonau calibreiddio nwy rhyngwladol a chenedlaethol y DU. Ar gyfer y gorsafoedd AURN cynhelir archwiliadau QA/QC bob chwe mis, tra bo gorsafoedd nad ydynt yn orsafoedd AURN yn cael archwiliad blynyddol.Hefyd, mae'r gwaith o gadarnhau data hefyd yn gofyn am farn gwyddonwyr ansawdd aer profiadol a fydd yn gorfod ystyried dilysrwydd data yng ngoleuni llawer o bethau gan gynnwys:

  • Perthynas rhwng llygryddion.
  • Effaith digwyddiadau llygredd aer.
  • Cyd-destun y canlyniadau yn hinsawdd llygredd gyffredinol y DU.
  • Patrymau llygryddion yn genedlaethol a rhanbarthol.
  • Tueddiadau hirdymor.

Pan fydd yr holl wiriadau a chywiriadau cadarnhau wedi'u cwblhau yna mae'r data'n cael ei ail-lwytho i Gronfa Ddata Ansawdd Aer Cymru gyda baner statws newydd "Ratified".

Dylid nodi fodd bynnag bod amgylchiadau o bryd i'w gilydd lle mae data wedi sydd cael baner "Ratified" yn gallu cael ei adolygu ymhellach, er enghraifft:

  • Os yw archwiliad QA/QC wedi canfod problem sy'n effeithio ar ddata yn l i gyfnod cadarnhau cynharach.
  • Os yw dadansoddiad hirdymor wedi canfod anghysondeb rhwng tueddiadau disgwyliedig a thueddiadau a fesurwyd sy'n gofyn am ymchwilio pellach a chywiro data o bosibl. Dyma oedd yr achos gyda data monitro gronynnau grafimetrig 2000-2008 yn rhwydwaith genedlaethol y DU.
  • Os daw ymchwil bellach i'r amlwg sy'n nodi bod angen meini prawf QA/QC newydd neu lymach er mwyn bodloni amcanion ansawdd data. Gall hyn ei gwneud yn ofynnol cynnal adolygiad o ddata hanesyddol trwy ddefnyddio'r meini prawf newydd.

Gwneir unrhyw gywiriadau angenrheidiol eraill i'r set ddata flynyddol, cyn belled phosibl, cyn anfon canlyniadau AURN i'r Comisiwn Ewropeaidd ym mis Medi'r flwyddyn ganlynol.

Os oes achos cryf dros addasu setiau data a anfonwyd eisoes i'r Comisiwn Ewropeaidd, fel arfer bydd angen cynnal ymgynghoriad eang a dod i gytundeb cyn gweithredu.

Un enghraifft yw cywiro data monitro PM10 grafimetrig o 2000 i 2008 a fu'n destun ymgynghoriad eang.

Mae'r broses dilysu a chadarnhau yn sicrhau cywirdeb gorau posibl y data ansawdd aer ar gyfer y cyhoedd, ac at ddibenion ymchwil gwyddonol. Mae hefyd yn sail i lwyddiant y Broses Rheoli Ansawdd Aer Lleol, yn ogystal chynorthwyo Llywodraeth y Cynulliad i fodloni ei gofynion statudol dan Gyfarwyddebau'r UE.