Detholydd data

Noder: Mae'r data sy'n cael ei gyhoeddi ar y wefan hon yn cynnwys mesuriadau llygredd aer mewn pob math o leoliadau gwahanol; rhai ymyl ffordd, eraill mewn lleoliadau cefndirol neu ardaloedd gwledig. Mae safleoedd ymyl ffordd a safleoedd cefndir trefol yn codi materion pwysig o ran dod i gysylltiad â llygredd a'r effeithiau posibl ar iechyd. Cofiwch - tra bod y mesuriadau ym mhob safle yn rhai cymharol ac felly'n ffeithiol gywir - ni fyddai'n wyddonol gywir dod i gasgliadau syml yn seiliedig arnynt i ddangos pa dref yw'r mwyaf llygredig yn y rhanbarth. Gallai'r rhestr hon fod yn gamarweiniol am nifer o resymau, gan gynnwys:

  • Mae gorsafoedd cefndir yn cynrychioli cysylltiad llygredd â llygredd aer ledled y ddinas yn well na safleoedd ymyl ffordd ar y cyfan.
  • Nid yw'r safleoedd monitro'n cynnwys pob dinas.
  • Bydd angen model i ategu canlyniadau'r pwyntiau mesur unigol er mwyn disgrifio'r lefelau cyffredinol o lygredd a chysylltiad y boblogaeth â llygredd yn sgil hynny mewn tref neu ddinas benodol.