Gellir rhannu methodolegau monitro aer yn bum prif fath, yn cwmpasu ystod eang o gostau a lefelau perfformiad. Mae´r dulliau a´u rhagoriaethau cymharol wedi´u nodi yn y tabl isod ac yn cael eu trafod yn yr adran ddilynol. Efallai y bydd angen cyfiawnhau defnyddio math arbennig o offer monitro mewn adroddiadau asesu ac adolygu ac felly dylid eu dewis yn briodol.
Mae´n bwysig hefyd dewis y lleoliad monitro mwyaf priodol i ymchwilio ffynhonnell neu broblem llygredd aer benodol.
Gan fod offer monitro yn cwmpasu amrywiaeth eang o gostau cyfalaf a gweithredol, fel rheol, byddai´n ddoeth dewis y dull symlaf sydd ar gael i fodloni´r amcanion monitro penodol. Mae dulliau samplu goddefol neu actif rhad yn ddigon da ar gyfer monitro llinell sylfaen, sgrinio gofodol ac arolygon mynegol. Dim ond dulliau mesur profedig sy´n gyffredinol dderbyniol y dylid eu hystyried.