Geirfa
Mae 1,3-biwtadïen, fel bensen, yn gyfansoddyn organig sy’n cael ei ryddhau i’r atmosffer, yn bennaf wrth i gerbydau petrol a disel hylosgi tanwydd. Yn wahanol i bensen, fodd bynnag, nid yw’n un o elfennau’r tanwydd ond mae’n cael ei gynhyrchu wrth i oleffinau gael eu hylosgi. Mae 1,3-biwtadïen hefyd yn gemegyn pwysig mewn rhai prosesau diwydiannol, yn arbennig wrth gynhyrchu rwber synthetig. Mae’n cael ei drin mewn llwythi mewn ychydig o leoliadau diwydiannol. Ac eithrio lleoliadau o’r fath, prif ffynhonnell 1,3-biwtadïen yn yr atmosffer yw’r car. Mae 1,3-biwtadïen yn garsinogen dynol cryf
Cyflwr yr aer ar adeg a lle penodol y tu allan i adeiladau. Defnyddir y term aer yr awyr agored hefyd.
Amcanion yw targedau polisi a fynegir yn gyffredinol fel y crynodiad amgylchol uchaf i’w gyflawni, naill ai’n ddiethriad neu gyda nifer o achosion uwch na’r safonau a ganiateir, o fewn amserlen benodol.
Os yw awdurdod lleol yn dod o hyd i lefydd lle nad yw’r amcanion yn debygol o gael eu cyflawni, mae’n rhaid iddo ddatgan ei bod yn Ardal Rheoli Ansawdd Aer. Gallai’r ardal hon fod yn un neu ddwy stryd yn unig, neu’n llawer mwy. Yna, bydd yr awdurdod lleol yn llunio cynllun i wella ansawdd yr aer Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer Lleol.
Mae BAM (Monitor Màs Gwanhad Beta) yn mesur crynodiadau gronynnog yn awtomatig. Mesurir dwysedd y màs gyda thechneg gwanhad Beta. Caiff ffynhonnell Beta fechan ei chysylltu ?datguddiwr sensitif sy’n cyfrif y gronynnau Beta. Wrth i’r màs o ronynnau gynyddu bydd y cyfrif Beta yn lleihau. Mae’r berthynas rhwng y lleihad hwn a’r màs gronynnog yn cael ei gyfrif yn ðl hafaliad hysbys (Deddf Beer-Lambert).
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Llygredd Aer yn defnyddio pedwar band i ddisgrifio lefelau llygredd. Y bandiau yw isel, cymedrol, uchel ac uchel iawn. Nid yw pobl iach yn sylwi ar unrhyw effeithiau o lygredd aer fel arfer, ac eithrio weithiau pan fo llygredd aer yn uchel iawn.
Cyfansoddyn organig aromatig yw bensen sy’n bresennol mewn swm bychan mewn petrol (tua 2%). Prif ffynonellau bensen yn yr atmosffer yn Ewrop yw dosbarthiad a hylosgiad petrol. Hylosgiad gan gerbydau sy’n rhedeg ar betrol yw’r elfen fwyaf (70% o’r holl allyriadau) tra bod puro, dosbarthu ac anweddu petrol o gerbydau yn cyfrif am tua 10% arall o’r holl allyriadau. Caiff bensen ei ryddhau trwy biben wacáu cerbydau nid yn unig fel tanwydd heb ei losgi ond fel cynnyrch pydru cyfansoddion aromatig eraill. Mae bensen yn garsinogen dynol.
Cyhoeddir Bwletinau Llygredd Aer bob dydd ar gyfer pob parth yn y DU. Mae’r bwletinau’n dangos yr ansawdd aer cyfredol, a rhagolwg ar gyfer y 24 awr nesaf, wedi’u dosbarthu i bedwar band ac i fynegai.
Canran yr holl fesuriadau posib am gyfnod penodol a gafodd eu mesur yn ddilys.
Gwerth sy’n nodi pwynt arbennig mewn casgliad o ddata. Er enghraifft, ystyr canradd o 98 ar gyfer gwerthoedd blwyddyn yw’r gwerth y mae 98% o holl ddata’r flwyddyn yn is nag ef, neu’n gyfwerth ag ef.
Mae CO yn amharu ar allu’r gwaed i gludo ocsigen i feinweoedd y corff ac yn effeithio’n andwyol ar iechyd.
Corff Cynghori o arbenigwyr annibynnol yw COMEAP (Pwyllgor ar Effeithiau Meddygol Llygryddion Aer) sy’n darparu cyngor i Adrannau ac Asiantaethau’r Llywodraeth ar yr holl faterion sy’n ymwneud ?natur wenwynig posib llygryddion aer a’u heffeithiau ar iechyd.
Cyfansoddion carbon sy’n anweddu i’r aer (gydag ychydig eithriadau). Mae VOCs yn cyfrannu at ffurfio mwrllwch a/neu’n gallu bod yn wenwynig eu hunain. Gellir eu hogleuo fel arfer, gydag enghreiffitau yn cynnwys gasolin, alcohol, a’r toddyddion a ddefnyddir mewn paent.
Darlleniad uchaf yr awr o lygredd aer a gafwyd yn ystod y cyfnod amser a astudir.
Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn deddfu i reoli allyriadau o lygryddion aer ac i sefydlu amcanion ansawdd aer ers dau ddegawd. Ar ðl blynyddoedd o ddeddfu fesul tipyn, mae deddfwriaeth ansawdd aer amgylchol nawr yn cael ei chydgyfnerthu. Mae Cyfarwyddeb 96/62/CE ar asesu a rheoli ansawdd aer amgylchol, sef Cyfarwyddeb Fframwaith Ansawdd Aer, yn gosod fframwaith strategol ar gyfer mynd i’r afael ag ansawdd aer yn gyson trwy bennu gwerthoedd uchaf ar gyfer deuddeg llygrydd aer ledled Ewrop mewn cyfres o epil gyfarwyddebau. Bydd y rhain yn disodli ac yn ehangu’r ddeddfwriaeth Ewropeaidd gyfredol.
Cyfartaledd crynodiadau pob llygrydd mewn un flwyddyn. Blwyddyn galendr yw hon fel rheol, ond caiff rhai mathau eu cofnodi am y cyfnod o fis Ebrill i fis Mawrth, sef y flwyddyn lygredd. Mae’r cyfnod hwn yn osgoi rhannu tymor y gaeaf rhwng dwy flynedd, sy’n ddefnyddiol ar gyfer llygryddion sydd chrynodiadau uwch yn ystod misoedd y gaeaf.
Er enghraifft, mae cymedr 8 awr parhaus yn cael ei gyfrif bob awr, ac yn cyfrif cyfartaledd y gwerthoedd am wyth awr. Mae’r cyfnod cyfartaledd yn symud ymlaen un awr ar gyfer pob gwerth, felly mae gwerthoedd cymedr parhaus yn cael eu rhoi ar gyfer y cyfnodau 00:00 - 07:59, 01:00 - 08:59 ac ati. Mewn cyferbyniad, mae cymedr nad yw’n gorgyffwrdd yn cael ei gyfrif am gyfnodau amser dilynol, sy’n rhoi gwerthoedd am y cyfnodau 00:00 - 07:59, 08:00 - 15:59 ac ati. Mae yna 24 cymedr 8 awr posib mewn diwrnod felly (cyfrif o ddata bob awr) a 3 cymedr nad yw’n gorgyffwrdd.
Cynnydd yn nhymeredd troposffer y Ddaear. Mae hyn wedi digwydd yn y gorffennol yn sgil dylanwadau naturiol, ond defnyddir y term fel rheol i gyfeirio at y cynhesu a ragwelir gan fodelau cyfrifiadurol o ganlyniad i gynnydd yn allyriadau nwyon ty gwydr.
Pan fo awdurdod lleol wedi sefydlu AQMA, mae’n rhaid iddo lunio cynllun gweithredu yn nodi’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i gyflawni amcanion ansawdd aer yn yr ardal ddynodedig. Dylai’r cynllun fod ar waith, lle bo’n bosib, o fewn 12-18 mis o’r dynodiad a chynnwys amserlen ar gyfer gweithredu.
Mae’r gwaith o fonitro lefelau PM10 yn y DU hyd yn hyn wedi bod yn seiliedig ar y defnydd o ddadansoddwyr TEOM. Anfantais fawr yr offeryn TEOM yw fod yr hidlydd yn cael ei ddal ar dymheredd uwch (50°C) er mwyn lleihau camgymeriadau sy’n gysylltiedig ag anweddiad anwedd dwr. Gall hyn arwain at golli mwy o fathau anweddol (rhai hydrocarbonau, nitradau ac ati) ac mae wedi arwain at nodi gwahaniaethau rhwng mesuriadau TEOM a grafimetrig mewn safleoedd a gydreolir. Ar hyn o bryd, mae ffactor o 1.3 yn cael ei ddefnyddio gyda phob crynodiad a fesurwyd gyda TEOM i amcangyfrif cyfwerth grafimetrig. Mae DEFRA wedi comisiynu astudiaethau pellach i ymchwilio i’r effeithiau hyn, ac i ddarparu perthynas gadarnach rhwng y TEOM a’r dull cyfeirio grafitmetrig trosglwyddo Ewropeaidd.
Y nifer o ddyddiau lle mae gan o leiaf un cyfnod grynodiad uwch na’r safon ansawdd aer perthnasol neu’n hafal iddo (bydd y cyfnod cyfartaledd yn cael ei ddiffinio gan y safon). Gan fod y safonau ansawdd aer cenedlaethol yn cwmpasu cyfnodau amser gwahanol (cyfartaledd o 15 munud, cymedr 24 awr parhaus ac ati) mae hyn yn ffordd ddefnyddiol o gymharu data i wahanol lygryddion.
Caiff cyfanswm dyddodiad atomosfferig asidedd ei bennu trwy ddefnyddio mesuriadau dyddodiad sych a gwlyb. Dyddodiad gwlyb yw’r gyfran sydd wedi toddi mewn dafnau cwmwl ac yn cael ei ollwg pan mae’n bwrw glaw neu yn ystod math arall o wlybaniaeth. Dyddodiad sych yw’r gyfran sy’n disgyn ar arwynebau sych yn ystod cyfnodau pan nad oes gwlybaniaeth fel gronynnau neu ar ffurf nwy. Er bod y term "glaw asidyn cael ei ddefnyddio" n aml, mae’r gyfran dyddodiad sych yn amrywio o 20 i 60 y cant o gyfanswm dyddodiad.
Mae’r rhaglen EMEP yn cynnwys tair prif elfen: (1) casglu data allyriadau, (2) mesuriadau ansawdd aer a gwlybaniaeth a (3) model cludiant a dyddodiad atmosfferig llygredd aer. Mae EMEP yn paratoi adroddiadau rheolaidd ar allyriadau, crynodiadau a/neu ddyddodion o lygryddion aer, nifer ac arwyddocâd fflycsau trawsffiniol a lefelau uwch na’r safonau i lwythi critigol a lefelau trothwy. Mae’r rhaglen EMEP yn cael ei gweithredu ar y cyd ?rhwydwaith eang o wyddonwyr ac arbenigwyr cenedlaethol sy’n cyfrannu at y broses systematig o gasglu, dadansoddi ac adrodd data allyriadau, data mesur a chanlyniadau asesu integredig.
Sefydlwyd y Panel Arbenigol ar Safonau Ansawdd Aer ym 1991 i ddarparu cyngor annibynnol ar faterion ansawdd aer, yn arbennig y lefelau o lygredd lle nad oes fawr o effeithiau iechyd yn debygol o ddigwydd, os o gwbl. Mae aelodau’r Panel yn cynnwys pobl amlwg o feysydd ymchwil, ymarfer ac addysgu iechyd. Mabwysiadwyd argymhellion y Panel fel y safonau meincnod yn y Strategaeth Ansawdd Aer Genedlaethol.
Mae System Mesur Hidlyddion Deinamig (FDMS) yn monitro ffracsiynau craidd ac anweddol deunydd gronynnog yn yr awyr. Mae'r offeryn wedi'i seilio ar dechnoleg TEOM, sy'n mesur más gronynnau a gesglir ar hidlydd gan hefyd ystyried bod deunydd lled anweddol yn cael ei golli. Mae'r FDMS yn cofnodi data gronynnau rhifau cyfeirio cyfatebol. Defnyddir mesuriadau Model Cywiro Anweddol (VCM) i gywiro mesuriadau TEOM o'r cydrannau anweddol o ddeunydd gronynnog sy'n cael eu colli oherwydd y tymereddau samplu uchel a ddefnyddir gan yr offeryn.
Y berthynas rhwng y swm o lygredd a gynhyrchir a’r swm o ddeunydd crai sy’n cael ei brosesu neu ei losgi. Yn achos ffynonellau symudol, y berthynas rhwng y swm o lygredd a gynhyrchir a nifer y milltiroedd a deithiodd y cerbyd. Trwy ddefnyddio ffactor allyrru llygrydd a data penodol am symiau o ddeunyddiau a ddefnyddir gan ffynhonnell benodol, mae’n bosib cyfrif allyriadau ar gyfer y ffynhonnell honno. Defnyddir y dull hwn i baratoi rhestr allyriadau.
Pan fo llygryddion atomsfferig fel sylffwr deuocsid ac osidiau nitrogen yn cymysgu ag anwedd dwr yn yr aer, maent yn troi i asidau sylffwrig a nitrig. Mae’r asidau hyn yn gwneud y glaw yn asidig, dyma’r rheswm am y term "glaw asid" Glaw asid yw unrhyw lawiad sydd lefel asidrwydd uwch na’r hyn a ddisgwylir mewn glawiad anllygredig. Caiff asidrwydd ei fesur ar raddfa pH, gyda’r rhif 7 yn niwtral. O ganlyniad, mae sylwedd gyda gwerth pH o lai na 7 yn asidig, tra bod un uwch na 7 yn fasig. Yn gyffredinol, defnyddiwyd pH o 5.6 fel y llinell sylfaen i ddynodi glaw asid. Felly, bydd unrhyw waddodiad gwerth pH llai na 5.6 yn cael ei ystyried yn waddodiad asid.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Llygredd Aer yn darparu gwybodaeth fanwl, sy’n hawdd i’w deall am lygredd aer yn ddi-dâl. Mae’r wybodaeth hon yn arbennig o bwysig i bobl sydd ?chyflwr meddygol a allai waethygu o ganlyniad i lygredd aer. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar ffðn rhad, ar Ceefax a Teletestun, ac ar y We. Mae’r Gwasanaeth yn rhoi crynodebau rhanbarthol a gwybodaeth fanwl am lefelau llygredd cyfredol, yn ogystal rhagolygon am y 24 awr nesaf.
Cyfansoddion sy’n cynnwys gwahanol gyfuniadau o atomau hydrogen a charbon. Gallant gael eu rhyddhau i’r aer trwy ffynonellau naturiol (e.e. coed) ac o ganlyniad i hylosgi tanwydd llysieuol a ffosil, anweddiad tanwydd, a defnyddio toddyddion. Mae hydrocarbonau yn cyfrannu’n sylweddol at fwrllwch.
Ffordd o fesur crynodiad yn nhermau màs yr uned cyfaint. Ystyr crynodiad o 1 µg/m3 yw bod un metr ciwbig o aer yn cynnwys un microgram (un rhan o filiwn o gram) o lygrydd.
Mae’r model gwasgariad yn ddull o gyfrif crynodiadau llygredd aer o gael gwybodaeth am allyriadau llygryddion a natur yr atmosffer. Wrth weithredu ffatri, gyrru car, neu gynhesu ty, bydd amrywiaeth o lygryddion yn cael eu rhyddhau i’r atmosffer. Gellir pennu faint o lygryddion sy’n cael eu rhyddhau o wybodaeth am y broses neu’r mesuriadau gwirioneddol. Mae amcanion ansawdd aer wedi’u pennu yn nhermau gwerthoedd crynodiad, nid cyfraddau allyrru. Er mwyn asesu a yw allyriad yn debygol o arwain at lefelau uwch na’r safonau amcan penodedig mae angen gwybod y crynodiadau ar y ddaear a allai ddigwydd ar bellteroedd o’r ffynhonnell. Dyma ddiben model gwasgariad.
Defnyddir y model llwybrau i ragweld achosion o lygryddion a gynhyrchir yn ffotogemegol yn yr haf, lle mae trafnidiaeth pellter hir yn ffactor bwysig yng nghrynodiadau uchel y DU. Mae’n defnyddio allbwn modelau rhagweld tywydd rhifol fel mewnbwn, ac yn rhagweld sut mae masau aer wedi’u cludo am y 96 awr flaenorol. Gelwir y llwybrau hyn yn “ðl lwybrau? Mae’r model yn defnyddio cynllun cemegol syml i ragweld ffurfiant osðn wrth i’r aer deithio i’r DU. Caiff crynodiadau cyfraniad y gronyn eilaidd i PM10 eu rhagweld gan y model hwn hefyd.
Mae monitro yn cael ei ddisgrifio’n ‘awtomatig neu’n ‘barhaus os yw’n cynhyrchu mesuriadau amser real o grynodiadau llygryddion. Mae yna ddulliau monitro pwynt sefydlog awtomatig yn bodoli ar gyfer amrywiaeth o wahanol lygryddion a gall y rhain ddarparu cyfartaledd data cydraniad uchel dros gyfnodau byr iawn.
Mae Mwg Du yn cynnwys gronynnau mân. Gall y gronynnau hyn fod yn beryglus i iechyd yn enwedig o’u cyfuno gyda llygryddion eraill sy’n gallu glynu i arwynebau gronynnog. Caiff Mwg Du ei ryddhau’n bennaf wrth hylosgi tanwydd. Yn sgil y lleihad sylweddol mewn defnyddio glo, y prif ffynhonnell erbyn hyn yw cerbydau sy’n rhedeg ar ddisel. Caiff Mwg Du ei fesur yn ðl ei effaith dduo ar hidlyddion. Mae’n cael ei fesur yn y DU ers llawer o flynyddoedd. Y màs o ronynnau mân yw’r prif ddiddordeb bellach yn hytrach na’r effaith dduo.
Mynegai rhifol ar gyfer llygredd aer o 1 i 10 yn ymwneud bandiau ansawdd aer isel cymedrol uchel neu "uchel iawn"
Nwyon atmosfferig fel carbon deuocsid, methan, clorofflworocarbonau, ocsid nitraidd, osðn, ac anwedd dwr sy’n arafu trosglwyddiad gwres wedi’i ail-ymbelydru trwy atmosffer y Ddaear.
Mae prosesau hylosgi yn rhyddhau cymysgedd o ocsidiau nitrogen, yn bennaf ocsid nitrig (NO) a nitrogen deuocsid (NO2), sy’n cael eu galw’n NOx gyda’i gilydd. Mae nitrogen deuocsid yn effeithio ar yr amgylchedd ac iechyd mewn gwahanol ffyrdd. Mae’n llidydd resbiradol sy’n gallu gwaethygu asthma a chynyddu posibilrwydd o ddioddef heintiadau. Wrth ddod i gysylltiad ?golau’r haul, mae’n adweithio gyda hydrocarbonau i gynhyrchu llygryddion ffotogemegol fel osðn. Gall allyriadau nitrogen deuocsid gael eu hocsideiddio ymhellach mewn aer i fod yn nwyon asid, sy’n cyfrannu at law asid.
Mae Hydrocarbonau Aromatig Polysyclig (PAHs) yn perthyn i grwp mawr o gyfansoddion organig; mae sawl PAH unigol yn garsinogenig. Mae EPAQS wedi argymell safon o 0.25 ng/m3 ar gyfer PAHs gan ddefnyddio benso[a]pyren fel cyfansoddyn marcio.
Rhannwyd y DU yn barthau a chynulliadau at ddibenion monitro llygredd aer, yn unol ?Chyfarwyddeb 96/62/CE y CE. Mae yna 16 parth sy’n cyfateb i:
1. Ffiniau Swyddfeydd Llywodraeth Lloegr ar gyfer y Rhanbarthau
2. Y ffiniau y cytunwyd arnynt gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban ac Adran yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon.
Mae yna 28 cynulliad yn y DU. Diffinnir cynulliad fel unrhyw ardal drefol gyda phoblogaeth sy’n fwy na 250,000.
Samplwyr deunydd gronynnog grafimetrig cyfaint isel yw partisolau y profwyd eu bod yn Rhifau Cyfeirio Cyfatebol er mwyn monitro PM10 (ond nid PM2.5).
Sylweddau cemegol sy’n aros yn yr amgylchedd, yn biogrynhoi trwy’r gadwyn fwyd, ac yn achosi risg o effeithiau andwyol ar iechyd pobl a’r amgylchedd yw Llygryddion Ogranig Parhaus (POPs). Mae’r rhain yn cynnwys deuocsinau a ffwranau (gweler TOMPS).
Rhannau fesul biliwn. Y crynodiad o lygrydd mewn aer yn nhermau cymhareb cyfaint. Mae crynodiad o 1 ppb yn golygu bod yna un uned o lygrydd yn bresennol ym mhob biliwn (109) uned o aer.
Rhannau fesul miliwn. Y crynodiad o lygrydd mewn aer yn nhermau cymhareb cyfaint. Mae crynodiad o 1 ppm yn golygu bod yna un uned o lygrydd yn bresennol ym mhob miliwn (106) uned o aer.
Mae LAQM yn gofyn i awdurdodau lleol adolygu ac asesu ansawdd aer eu hardaloedd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn rheolaidd. Mae’n rhaid i awdurdod lleol ddynodi ardal reoli ansawdd aer (AQMA) os yw’n debygol y bydd unrhyw un o’r amcanion a nodwyd yn y rheoliad yn amhosib i’w gyflawni yn yr ardal yn y cyfnod perthnasol.
Mae’r NAEI yn llunio amcangyfrifon o allyriadau i’r atmosffer o ffynonellau y DU fel ceir, tryciau, gorsafoedd pwer a gweithfeydd diwydiannol. Caiff yr allyriadau hyn eu hamcangyfrif i helpu i ddod o hyd i ffyrdd o leihau effiath gweithgareddau dynol ar yr amgylchedd a’n hiechyd.
Amcangyfrifon o swm a math y llygryddion sy’n cael eu hallyrru i’r aer bob blwyddyn o bob ffynhonnell yw rhestri allyriadau. Mae yna lawer o ffynonellau llygredd aer, yn cynnwys traffig, prosesau cynhesu tai, amaeth a phrosesau diwydiannol.
Mae safonau CEN yn diffinio'r dulliau cyfeirio ar gyfer monitro ansawdd aer er mwyn cydymffurfio â Chyfarwyddeb y CE. Ni all dulliau cyfeirio PM10 a PM2.5 gynhyrchu data amser real. Mae'r UE yn caniatáu i ddulliau cyfatebol gael eu defnyddio at ddibenion rheoleiddio, lle diffinnir cywerthedd yn y Guide to the Demonstration of Equivalence (2010). Mae'n nodi gweithdrefn ar gyfer mesur y cytundeb rhwng dulliau cyfeirio a dulliau nad ydynt yn cyfeirio dros gyfres o fesuriadau maes cyfochrog. Y nod yw y dylai offerynnau Rhifau Cyfeirio Cyfatebol gynhyrchu data dyddiol sydd â mesur ansicrwydd sy'n is na'r hyn sy'n ofynnol yn y Gyfarwyddeb Ansawdd Aer Amgylchynol: ±25%, gyda lefel hyder 95%, mewn crynodiadau sy'n agos i'r Gwerthoedd Terfyn.
Safonau yw’r crynodiadau o lygryddion yn yr atmosffer y gellir cymryd eu bod yn gyffredinol yn sicrhau lefel benodol o ansawdd amgylcheddol. Mae’r safonau’n seiliedig ar asesiad o effeithiau pob llygrydd ar iechyd pobl yn cynnwys yr effeithiau ar is-grwpiau sensitif.
Mae samplwyr tiwb tryledu goddefol yn casglu nitrogen deuocsid a llygryddion eraill trwy drylediad molecwlaidd ar hyd tiwb anadweithiol i amsugnydd cemegol effeithlon. Ar ðl cysylltiad am amser penodol, bydd y deunydd amsugnol yn cael ei ddadansoddi’n gemegol a’r crynodiad yn cael ei gyfrif.
Mae Strategaeth Ansawdd Aer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn disgrifio cynlluniau’r Llywodraeth a’r gweinyddiaethau datganoledig i wella a diogelu ansawdd aer amgylchol yn y DU yn y tymor canolig. Mae’r Strategaeth yn nodi amcanion ar gyfer y prif lygryddion aer i ddiogelu iechyd. Bydd perfformiad yn erbyn yr amcanion hyn yn cael ei fonitro lle mae pobl yn bresennol yn rheolaidd ac efallai yn dod i gysylltiad llygredd aer.
Nwy asid cyrydol sy’n cyfuno anwedd dwr yn yr atmosffer i gynhyrchu glaw asid yw sylffwr deuocsid. Mae dyddodiad sych a gwlyb yn gysylltiedig ?difrodi a difa llystyfiant a diraddio pridd, deunyddiau adeiladu a chyrsiau dwr. Mae SO2 mewn aer amgylchol hefyd yn gysylltiedig ag asthma a bronchitis cronig.
Defnyddir microglorian osgiladol elfen daprog (TEOM) i fesur crynodiadau gronynnog yn barhaus. Mae’n mesur y màs sy’n cael ei gasglu ar getrisen hidlydd cyfnewidiadwy trwy fonitro newidiadau amledd cyfatebol elfen daprog. Mae llif y sampl yn mynd trwy’r hidlydd, lle mae deunydd gronynnog yn crynhoi, ac yn parhau trwy’r elfen daprog wag ar ei ffordd i system rheoli llif electronig a phwmp faciwm.
Cyfnod o amser pan fo crynodiad y llygrydd yn uwch, neu’n hafal i’r meini prawf ansawdd aer priodol. Yn achos safonau ansawdd aer, uwch na’r safonau yw crynodiad mwy na’r gwerth safonol. Yn achos bandiau ansawdd aer, uwch na’r safonau yw crynodiad mwy na, neu’n hafal i drothwy’r band uchaf.
Mae’r ystadegau crynodiad ac allyriadau a ddangosir yn y gronfa ddata ansawdd aer yn Ystadegau Cenedlaethol. Caiff Ystadegau Cenedlaethol eu cynhyrchu i safonau proffesiynol uchel a nodir yng Nghod Ymarfer Ystadegau Cenedlaethol. Maent yn destun adolygiadau sicrwydd ansawdd rheolaidd i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cwsmeriaid. Cânt eu cynhyrchu yn ddi-duedd, yn rhydd o unrhyw ddylanwad gwleidyddol.