Ystod DyddiadauDewiswch gofnodi naill ai 'Dyddiadau Penodol' neu 'Flynyddoedd Penodol'. Mae 'Dyddiadau Penodol' yn eich galluogi i ddewis diwrnod, mis a blwyddyn er mwyn dechrau a gorffen eich dadansoddiad. Bydd 'Blynyddoedd Penodol' yn eich galluogi i wneud dewis cyflym o flynyddoedd sydd o ddiddordeb i chi a bydd y gwaith dadansoddi yn cychwyn ar 1 Ionawr ac yn gorffen ar 31 Rhagfyr ar gyfer y blynyddoedd a ddewiswyd.
MathDefnyddiwch y gwymplen hon i ddewis sut rydych am i'ch data gael eu rhannu. Bydd yr opsiwn rhagosodiad yn cynhyrchu plot sengl yn cwmpasu ystod gyfan y data. Bydd dewis 'Awr' yn cynhyrchu plot unigol ar gyfer pob un o oriau'r diwrnod ac felly'n helpu i gynrychioli gwahaniaethau dyddiol. Bydd dewis 'Diwrnod yr Wythnos' yn cynhyrchu plot unigol ar gyfer pob dydd o'r wythnos ac felly mae'n ddefnyddiol wrth amlygu'r gwahaniaethau gydol yr wythnos waith a'r penwythnosau. Bydd dewis 'Mis' yn cynhyrchu plot unigol ar gyfer pob mis o'r flwyddyn ac felly mae'n ddefnyddiol wrth amlygu gwahaniaethau gydol y flwyddyn. Bydd dewis 'Tymor' yn rhannu'r plot yn dymhorau priodol gan ddangos tueddiadau o dymor i dymor.
YstadegauDefnyddiwch y gwymplen Ystadegau i ddewis yr ystadegyn i'w ddefnyddio ar gyfer gosod holl gyflymderau a chyfeiriadau'r gwynt. Mae'r dewisiadau 'Amledd' (yr opsiwn rhagosodiad), 'Cymedr', 'Canolrif', 'Uchafswm', 'Gwyriad Safonol' a 'Cymedrig Wedi'i Bwysoli' ar gael. Mae'r opsiwn 'Cymedr Wedi'i Bwysoli' yn cael ei gynhyrchu o'r crynodiad a'i luosi â pha mor aml y mae'n digwydd. Gall fod yn ddefnyddiol amlygu pa gyflymder a chyfeiriad y gwynt sy'n cyfrannu fwyaf at y lefel cymedrig.