Seminarau

Seminar Fforwm Ansawdd Aer Cymru 2023: dydd Iau 30 Tachwedd 2023

Published Date: 15/01/2024

Cynhaliwyd Seminar Ansawdd Aer Blynyddol 2023 ddydd Iau 30 Tachwedd 2023 yng Nghlwb Criced Morgannwg - Gerddi Sophia.

Roedd y seminar eleni yn cynnwys rhagarweiniad gan Lywodraeth Cymru, cyflwyniad ar fannau gwyrdd ac ymgysylltu â'r gymuned; llosgi domestig; synwyryddion ansawdd aer cost isel; a dadansoddiad ansawdd aer cyflym a chydymffurfedd allyriadau cerbydau. Gweithdai dan arweiniad yr Athro Paul Lewis gafwyd yn y prynhawn

Mae cyflwyniadau o'r seminar ar gael i'w lawrlwytho isod.

WAQF 2021 Webinar: Tuesday 28th September 2021

Published Date: 07/10/2021

Cynhaliwyd y Seminar Blynyddol ar Ansawdd Aer ar gyfer 2021 ar ffurf Gweminar Zoom ddydd Mawrth 28 Medi 2021.

Roedd seminar eleni'n cynnwys cyflwyniad gan Lywodraeth Cymru, cipolwg ar Rwydwaith NO2 Trefol newydd y DU (UK Urban NO2 Network) a throsolwg o synwyryddion ansawdd aer a'r ffordd orau o'u defnyddio. Cafwyd diweddariad ar iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd, ynghyd â golwg ar dueddiadau mewn llwythi critigol yn y DU a hanes Hyrwyddwyr Aer Glân i Gymru.