Nid oes llawer o osôn osôn (O3) yn cael ei ryddhau yn uniongyrchol o unrhyw ffynhonnell wneud. Yn yr atmosffer isaf, caiff O3 ei ffurfio´n bennaf trwy gyfres gymhleth o adweithiau cemegol sy´n cael ei hysgogi gan olau´r haul. Gellir crynhoi´r adweithiau hyn fel ocsideiddiad cyfansoddion organig anweddol (VOCs) a gychwynnir gan olau´r haul ym mhresenoldeb ocsidiau nitrogen (NOx). Mae ffynonellau VOCs yn debyg i´r rhai a ddisgrifiwyd ar gyfer NOx uchod, ond hefyd yn cynnwys gweithgareddau eraill fel defnyddio toddyddion, a dosbarthu a thrafod petrol.
Nid yw´r adweithiau cemegol yn digwydd yn syth, gallant gymryd oriau neu ddyddiau, felly gallai osôn a fesurir mewn lleoliad arbennig ddeillio o allyriadau VOC a NOx a ddigwyddodd gannoedd neu filoedd o filltiroedd i ffwrdd. Mae´r crynodiadau uchaf, felly, yn digwydd i gyfeiriad y gwynt o ffynonellau allyriadau´r llygrydd rhagflaenol. Mae osôn yn llidio llwybrau aer yr ysgyfaint, gan gynyddu symptomau´r rhai sydd ag asthma a chlefyd yr ysgyfaint.