Seminarau

Seminar Fforwm Ansawdd Aer Cymru 2017: Cyflwyniad i gynlluniau NO2 a Pharthau Aer Glân a Mesurau Rhanbarthol a Lleol

Published Date: 06/11/2017

Cynhaliwyd Seminar Fforwm Ansawdd Aer Cymru 2017 ar 12 Hydref 2017 yn Siambr Cyngor Caerffili yn Nhŷ Penallta. Y thema eleni oedd cynlluniau NO2, Parthau Aer Glân (CAZ) a’r ffordd ymlaen ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Roedd yn cynnwys astudiaeth achos ar Gynllun Gweithredu’r Awdurdod Lleol, cyflwyniad ar gyflwyno Parthau Aer Glân ac enghreifftiau o effeithiau mesurau megis ysgolion cerdded a chyflwyno bysiau allyriadau isel. Mae’r rhaglen ar gyfer y digwyddiad a phob un o’r cyflwyniadau ar gael o dan y dolenni isod:

Seminar Fforwm Ansawdd Aer Cymru 2016: Y diweddaraf am bolisi a datblygiadau mewn Ymchwil Ansawdd Aer

Published Date: 19/10/2016

Cynhaliwyd Seminar Fforwm Ansawdd Aer Cymru 2016 ddydd Iau 6 Hydref 2016 yn Siambr Cyngor Caerffili yn Nhŷ Penallta. Polisïau ac Ansawdd Aer oedd prif thema sesiynau’r bore, a chafwyd trafodaethau ar yr adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn y prynhawn, canolbwyntiwyd mwy ar yr ymchwil sy’n cael ei wneud ar ansawdd aer, gan gynnwys ymchwil ansawdd aer gan ddefnyddio data telemateg, y defnydd o fesuriadau lloeren a’r potensial i’r rhain gael eu defnyddio i fonitro ansawdd aer, adolygiad diduedd o wahanol fathau o synwyryddion aer bach a ffynonellau nicel ym Mhontardawe. Mae’r rhaglen ar gyfer y digwyddiad a phob un o’r cyflwyniadau ar gael o dan y dolenni isod:

 

Seminar Fforwm Ansawdd Aer Cymru 2015: 20 Mlynedd ers Sefydlu Fforwm Ansawdd Aer Cymru

Published Date: 28/11/2015

Cynhaliwyd Seminar Fforwm Ansawdd Aer Cymru 2015 ddydd Iau 8 Hydref 2015 yng Nghanolfan Adnoddau’r Cyfryngau, Llandrindod. Y thema oedd “20 Mlynedd ers Sefydlu Fforwm Ansawdd Aer Cymru". Daeth mwy na 60 o gynrychiolwyr ynghyd i wrando ar amrywiaeth o siaradwyr gwadd adnabyddus ac i drafod y materion. Mae’r rhaglen ar gyfer y digwyddiad a phob un o’r cyflwyniadau ar gael o dan y dolenni isod: