Adnoddau Rheoli Ansawdd Aer Lleol

Mae Defra a’r Gweinyddiaethau Datganoledig wedi darparu pob math o adnoddau i helpu awdurdodau lleol gyda’r broses o adolygu ac asesu ansawdd aer. Mae’r adnoddau hyn i gyd ar gael ar-lein, ac mae modd eu lawrlwytho

Isod, rydym yn darparu cyflwyniadau i bob un o’r adnoddau canlynol, gyda dolenni:

Noder y bydd y rhan fwyaf o’r dolenni isod yn cysylltu â gwefannau allanol Defra, a fydd yn agor mewn ffenestr newydd.

Mae’r adnoddau ar gael i’w lawrlwytho mewn llawer o wahanol fformatau ffeil, ond .pdf a .xls yn bennaf. Mae rhai o’r adnoddau’n cynnwys macros ac efallai y bydd angen i rai defnyddwyr MS Excel newid eu gosodiadau diogelwch macro i gael yr adnoddau hyn i weithio.

Tiwbiau Tryledu NO2

Mae Defra a’r Gweinyddiaethau Datganoledig wedi cynhyrchu pob math o adnoddau a chanllawiau i helpu awdurdodau lleol sy’n defnyddio tiwbiau tryledu. Mae’r adnoddau’n cynnwys:

Cywiriad VCM

  • Mae King's College, Llundain wedi datblygu model newydd i gywiro crynodiadau TEOM PM10 i werthoedd "grafimetrig", yn seiliedig ar grynodiadau o’r ffracsiwn PM10 anweddol, a fesurir gan ddadansoddwyr FDMS. Gallwch gael mynediad at y Model Cywiriad Anweddol ar y we.

Monitro

Adnoddau ar gyfer monitro data, gan gynnwys:

  • Dirywiad NO2 gyda phellter -– Mae cyfrifydd wedi’i gynhyrchu sy’n amcangyfrif y crynodiad nitrogen deuocsid cymedrig blynyddol ar un pellter o ffordd, gan ddefnyddio mesuriadau a wneir ar wahanol bellter o’r un ffordd.
  • Cyfrifydd NOx i NO2 – Mae’r cyfrifydd hwn yn caniatáu i awdurdodau lleol ddeillio NO2 o NOx ble bynnag mae NOx wedi’i ragweld trwy fodelu allyriadau o’r ffyrdd. Gall y cyfrifydd gael ei ddefnyddio hefyd i gyfrifo cydran NOx  y ffordd o fesuriadau tiwb tryledu NO2 wrth ymyl y ffordd.
  • Ffactorau addasu blwyddyn

Adnoddau Allyriadau

Adnoddau Modelu

Mapiau Cefndir

Pecyn Cymorth Ffactorau Allyriadau

Gwefan Cyflwyno Adroddiadau

  • Mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol ddefnyddio Gwefan Cyflwyno Adroddiadau ar Reoli Ansawdd Aer Lleol i gyflwyno eu hasesiadau diweddaru a sgrinio, adroddiadau cynnydd, asesiadau manwl ac asesiadau pellach. Nid yw’r RSW yn caniatáu cyflwyno Cynlluniau Gweithredu, a dylai’r rhain gael eu cyflwyno’n uniongyrchol i gynrychiolydd eich Gweinyddiaeth Ddatganoledig.

Cwestiynau Cyffredin

Desgiau cymorth

  • Mae’r Ddesg Gymorth Rheoli Ansawdd Aer Lleol yn darparu atebion i gwestiynau Awdurdodau Lleol ar fonitro ansawdd aer, modelu a rhestri allyriadau, gwybodaeth ac arweiniad i helpu Awdurdodau Lleol i gynnal y broses Adolygu ac Asesu Ansawdd Aer Lleol sy’n ofynnol o dan Ran IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a gwybodaeth ac arweiniad i helpu Awdurdodau Lleol i baratoi a gweithredu Cynlluniau Gweithredu Ansawdd Aer er mwyn gwella.