Effeithiau ar iechyd
Llygredd aer yn yr awyr agored sy’n peri’r risg amgylcheddol fwyaf i iechyd.
Mae llygryddion megis gronynnau mân (a elwir yn PM2.5) a nitrogen deuocsid (NO2) yn gallu achosi nifer o broblemau iechyd, a gwneud problemau eraill yn waeth.
Gall anadlu’r llygryddion hyn dros gyfnod hir gynyddu’r risgiau i iechyd gan glefyd y galon, clefyd yr ysgyfaint, a chanser yr ysgyfaint. Mae tystiolaeth hefyd o’u heffeithiau ar ddementia, pwysau geni isel a diabetes. Gall dod i gysylltiad â llygryddion am gyfnod byr achosi symptomau yn cynnwys llid yn y llygad, y trwyn a’r gwddf. Mae’r effeithiau mae llygredd yn eu cael ar iechyd yn dibynnu ar faint mae pobl yn agored iddo ac am faint o amser.
Mae llygredd aer yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol; mae risgiau ac effeithiau’n newid ar hyd oes pobl hefyd. Mae llygredd yn fwy tebygol o gael effaith ar blant, pobl hŷn a’r rhai sydd â phroblemau’r galon neu’r ysgyfaint. Gall dod i gysylltiad â llygredd aer beri i blant ddioddef symptomau asthma a pheri i’w hysgyfaint beidio â datblygu cystal ag y dylent. Mae’n bosibl bod pobl sy’n gweithio mewn lleoedd llygredig neu’n teithio mewn ardaloedd llygredig (megis canol trefi), neu drwyddynt, yn rheolaidd, yn wynebu risg uwch o ddatblygu problemau iechyd sy’n ymwneud â llygredd. Mae pobl sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig – lle mae iechyd ac ansawdd aer yn tueddu i fod ar eu gwaethaf – hefyd yn fwy tebygol o gael eu niweidio o ganlyniad i ddod i gysylltiad â llygredd aer.
Data monitro a rhagolygon llygredd aer
Datblygwyd y Mynegai Ansawdd Aer Dyddiol i ddarparu cyngor ar lefelau disgwyliedig o lygredd aer. Yn ogystal, mae’n darparu gwybodaeth am yr effeithiau tymor byr y gellir eu disgwyl ym mandiau gwahanol y mynegai (Isel, Cymedrol, Uchel, ac Uchel iawn).
Mae’r wybodaeth leol a rhanbarthol ddiweddaraf am grynodiadau o lygredd aer ledled Cymru ar gael yma.
Amcangyfrif effeithiau
Mae’n anodd amcangyfrif effeithiau llygredd aer ar iechyd.
Yn 2018, amcangyfrifodd Pwyllgor Arbenigol y DU ar Effeithiau Meddygol Llygredd Aer (COMEAP) fod llygredd aer yn gyfrifol am “effaith gyfwerth â rhwng 28,000 a 36,000 o farwolaethau (ar oedrannau arferol) y flwyddyn” yn y DU. Yn 2022, diweddarodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yr amcangyfrif hwn; adroddir bod ystod y baich marwolaeth bellach gyfwerth â rhwng 29,000 a 43,000 o farwolaethau y flwyddyn.
Nid yw ystod y baich yn adlewyrchu marwolaethau ‘gwirioneddol’ o ganlyniad i ddod i gysylltiad â llygredd aer, ond mae’n amcangyfrif sy’n ‘gyfwerth â’r’ gostyngiad yn y disgwyliad oes (6–8 mis ar gyfartaledd, ond gallai amrywio rhwng dyddiau a blynyddoedd).
Yng Nghymru – ar sail data llygredd aer a gafodd ei fodelu cyn y pandemig – roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi amcangyfrif bod y baich o ganlyniad i ddod i gysylltiad hirdymor â llygredd aer gyfwerth â rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau y flwyddyn. Cafodd y ffigurau hyn eu cyfrifo drwy ddefnyddio dull cywirach sy’n ystyried effeithiau cyfunol llygryddion gwahanol, sy’n golygu bod y gorgyffyrddiad rhwng effeithiau PM2.5 ac NO2 wedi eu cynnwys yn y cyfrifiad.
Fodd bynnag, mae amcangyfrifon o effaith yn ansicr – dyma’r rheswm eu bod yn cael eu cyflwyno fel ystod o werthoedd yn hytrach nag amcangyfrif unigol a chanolig. Hefyd, nid yw’r amcangyfrifon ond yn berthnasol i amser a lle unigol, ac ni ddylid eu defnyddio i gymharu.
Er ei bod yn anodd amcangyfrif baich llygredd aer, mae tystiolaeth glir a chref yn dangos ei fod yn achosi niwed i iechyd. Felly mae’n bwysig cymryd camau i leihau llygredd aer a’r niwed sy’n gysylltiedig ag ef.
Pandemig COVID-19 a thueddiadau llygredd aer
Mae’n glir o’r cyfyngiadau iechyd cyhoeddus brys a gafodd eu cyflwyno yn ystod y pandemig (e.e. polisïau’n ymwneud â’r cyfyngiadau symud a gweithio gartref) pa mor agos yw’r cysylltiadau rhwng teithio, trafnidiaeth a llygredd aer.
Mewn gwaith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, aseswyd y newidiadau yng nghrynodiadau llygryddion aer gwahanol yn ystod cyfnodau’r cyfyngiadau symud. Dangosodd fod teithio a thrafnidiaeth yn cyfrannu’n sylweddol at lygredd aer a’i bod yn bosibl gwella ansawdd aer drwy newid yr angen i deithio a’r dull o deithio.
Mae polisïau sy’n cydnabod y newidiadau hyn ac yn cefnogi mesurau i’w mabwysiadu yn yr hirdymor yn debygol o fod yn fuddiol i ansawdd aer ac iechyd.
Cafodd yr ymateb i’r pandemig effeithiau eraill ar ansawdd yr aer yng Nghymru. Er ei bod yn bosibl y gwnaeth y cyfyngiadau symud leihau’r graddau yr oedd pobl yn dod i gysylltiad â rhywfaint o lygredd o drafnidiaeth, mae’n bosibl y bu pobl yn fwy agored i lygredd yn y cartref. Wrth i weithio gartref ddod yn fwyfwy cyffredin yn y dyfodol, mae angen cynnal ymchwil er mwyn deall y graddau yr ydym yn dod i gysylltiad â llygredd aer o dan do. Er enghraifft, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynyddu’r sylw y mae’n ei roi i’r graddau y mae pobl yn agored i garbon monocsid er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod nifer cynyddol o bobl yn treulio amser gartref. Yn ystod cyfnod cyntaf y cyfyngiadau symud, nododd llawer o asiantaethau y bu cynnydd mewn gwastraff cymunedol a thanau gardd oherwydd bod cyfleusterau ailgylchu ar gau a bod pobl gartref.