Seminarau

Gweminar Fforwm Ansawdd Aer Cymru 2024: Dydd Iau 28 Tachwedd 2024

Published Date:

Cynhaliwyd y Seminar Ansawdd Aer Blynyddol ddydd Iau 28 Tachwedd 2024 yng Nghlwb Criced Morgannwg - Gerddi Sophia.

Roedd y seminar eleni yn cynnwys cyflwyniad gan Lywodraeth Cymru, allyriadau amonia o fesuriadau allyriadau cerbydau; modelu allyriadau chwareli, synwyryddion cost isel monitro PM2.5 o losgi domestig. Roedd yna hefyd gyflwyniad gan grŵp cyflawni hyrwyddo ymwybyddiaeth o lygredd aer ynghyd â gweithdy ar segura. 

Mae’r cyflwyniadau o'r seminar ar gael i'w lawrlwytho isod.

 

 

Seminar Fforwm Ansawdd Aer Cymru 2023: dydd Iau 30 Tachwedd 2023

Published Date:

Cynhaliwyd Seminar Ansawdd Aer Blynyddol 2023 ddydd Iau 30 Tachwedd 2023 yng Nghlwb Criced Morgannwg - Gerddi Sophia.

Roedd y seminar eleni yn cynnwys rhagarweiniad gan Lywodraeth Cymru, cyflwyniad ar fannau gwyrdd ac ymgysylltu â'r gymuned; llosgi domestig; synwyryddion ansawdd aer cost isel; a dadansoddiad ansawdd aer cyflym a chydymffurfedd allyriadau cerbydau. Gweithdai dan arweiniad yr Athro Paul Lewis gafwyd yn y prynhawn

Mae cyflwyniadau o'r seminar ar gael i'w lawrlwytho isod.