Gwasanaethau Lawrlwytho Atom
Mae’r dudalen we hon ar gyfer aelodau o’r cymunedau gwyddonol a datblygwyr sydd â diddordeb mewn swmp lawrlwythiadau data a lawrlwythiadau data awtomatig mewn fformatau sy’n ddarllenadwy gan beiriannau.
Mae ffrydiau Atom ansawdd aer Aer Cymru yn adnodd i ddefnyddwyr lawrlwytho data mesuriadau a metadata (gwybodaeth priodoleddau) yn ymwneud â dulliau mesur mewn fformatau agored. Bwriedir y ffrydiau Atom ar gyfer defnyddwyr sydd am lawrlwytho llawer o ddata mewn fformat cyson. Mae’r fformatau a’r gwasanaethau lawrlwytho yn cydymffurfio â manylebau data a gwasanaeth INSPIRE ar gyfer lawrlwythiadau wedi’u diffinio ymlaen llaw, a bwriedir iddynt gefnogi ymrwymiadau i INSPIRE a strategaethau Data Agored llywodraethol ehangach.
Mae data a metadata mesuriadau wedi’u hamgodio mewn XML gan ddefnyddio model data e-Adrodd Ansawdd Aer Ewrop. Mae pob lawrlwythiad wedi’i gydgrynhoi mewn ffrwd Atom y mae modd tanysgrifio iddi (fel ffrwd RSS) er mwyn cael gwybod am ddiweddariadau.
Mae lawrlwythiadau wedi’u trefnu’n bedair ffrwd gwasanaeth lawrlwytho sy’n cwmpasu:
- Data mesur ansawdd aer yn awtomatig
- Data mesur ansawdd aer heb fod yn awtomatig
- Ystadegau ansawdd aer cyfanredol
- Metadata ar ddulliau asesu a rheoli ansawdd aer (gwrthrychau gofodol a gwrthrychau data ansawdd aer)
Defnydd
Cliciwch ar y hyperddolenni a ddarperir i ddefnyddio ffrydiau’r gwasanaeth lawrlwytho lletyol, a naill ai copïo ffrwd URL i’r darllenydd ffrwd Atom o’ch dewis i gael gwybodaeth am ddiweddariadau neu ei lawrlwytho’n uniongyrchol i’ch porwr o’ch bar cyfeiriadau.
Trwyddedu
Cyhoeddir ffrydiau Atom ansawdd aer Aer Cymru o dan Trwydded Llywodraeth Agored (OGL) ac mae’r telerau sy’n cael eu disgrifio yn “nhrwydded” neu “gyfyngiadau” yr OGL yn berthnasol iddynt. O dan yr OGL mae gennych chi hawl i:
- gopïo, cyhoeddi, dosbarthu a throsglwyddo’r wybodaeth.
- addasu’r wybodaeth.
- defnyddio’r wybodaeth at ddibenion masnachol ac anfasnachol, er enghraifft, trwy ei chyfuno â gwybodaeth arall, neu drwy ei chynnwys yn eich cynnyrch neu’ch cymhwysiad eich hun.
Ar gyfer unrhyw un o’r uchod, mae’n rhaid i chi gydnabod Llywodraeth Cymru a http://www.welshairquality.co.uk/index.php?t=&n_action=&lg=w fel ffynhonnell y wybodaeth drwy gynnwys y datganiad priodoli canlynol mewn adroddiadau, tudalennau gwe neu gynhyrchion data deilliannol, a chynnwys dolen i’r drwydded OGL os oes modd.
© Y Goron 2016, hawlfraint Llywodraeth Cymru, wedi’i thrwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (OGL).
Mae’r data a’r wybodaeth sydd ar gael drwy’r wefan hon yn cael eu diogelu gan hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol. Darllenwch dudalen hawlfraint y Goron ar gyfer rhagor o wybodaeth. Hefyd, gweler https://www.gov.uk/support/terms-conditions
Mae mwy o wybodaeth ar gael am ffrydiau gwasanaeth Atom fel gwasanaeth lawrlwytho INSPIRE