Mae amcanion ansawdd aer cenedlaethol Cymru yn cynrychioli trothwyon pragmataidd, ac os ydynt yn cael eu croesi, mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â llygredd aer yn annerbyniol. Fodd bynnag, ni ddylai aer sy’n cydymffurfio â’r amcanion o drwch blewyn gael ei ystyried yn aer ‘glân’ ac mae’n peri risgiau iechyd hirdymor o hyd. Po isaf y crynodiad o lygryddion fel nitrogen deuocsid a deunydd gronynnol, po isaf y risgiau o effeithiau iechyd andwyol yn y boblogaeth sy’n dod i gysylltiad â nhw. Felly, er bod cydymffurfio â’r amcanion ansawdd aer cenedlaethol yn hanfodol, mae’n ddymunol cadw lefelau llygredd mor isel ag sy’n ymarferol bosibl.
Amcanion ansawdd aer cenedlaethol sydd wedi’u cynnwys yn Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000, fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) 2002
Llygrydd | Amcan ansawdd aer cenedlaethol | |
---|---|---|
Crynodiad | Dull mesur | |
Bensen | 16.25 µg/m3 | cymedr blynyddol parhaus |
5 µg/m3 |
cymedr blynyddol | |
1,3-biwtadien | 2.25 µg/m3 | cymedr blynyddol parhaus |
Carbon monocsid | 10 mg/m3 | uchafswm cymedr 8-awr parhaus dyddiol |
Plwm | 0.25 µg/m3 | cymedr blynyddol |
Nitrogen deuocsid | ni ddylai fynd tu hwnt i 200 µg/m3 fwy na 18 gwaith mewn blwyddyn | cymedr 1-awr |
40 µg/m3 | cymedr blynyddol | |
Gronynnau (PM10) (grafimetrig) | ni ddylai fynd tu hwnt i 50 µg/m3 fwy na 35 gwaith mewn blwyddyn | cymedr 24-awr |
40 µg/m3 (canllaw WHO yw 20 µg/m3) |
cymedr blynyddol | |
Sylffwr deuocsid | ni ddylai fod yn uwch na 266 µg/m3, fwy na 35 gwaith mewn blwyddyn | cymedr 15-munud |
ni ddylai fod yn uwch na 350 µg/m3, fwy na 24 gwaith mewn blwyddyn | cymedr 1-awr | |
ni ddylai fod yn uwch na 125 µg/m3, fwy na 3 gwaith mewn blwyddyn (canllaw WHO yw 20 µg/m3) |
cymedr 24-awr |
Safonau ansawdd aer eraill sy’n berthnasol i iechyd pobl
Llygrydd | Terfyn neu werth targed yr EU | |
---|---|---|
Concentration | Measured as | |
Arsenig | 6 ng/m3 | cyfartaledd cyfanswm cynnwys yn y ffracsiwn PM10 dros flwyddyn galendr |
Bensopyren | 1 ng/m3 | cyfartaledd cyfanswm cynnwys yn y ffracsiwn PM10 dros flwyddyn galendr |
Cadmiwm | 5 ng/m3 | cyfartaledd cyfanswm cynnwys yn y ffracsiwn PM10 dros flwyddyn galendr |
Nicel | 20 ng/m3 | cyfartaledd cyfanswm cynnwys yn y ffracsiwn PM10 dros flwyddyn galendr |
Oson |
ni ddylai fod yn uwch na 120 μg/m3 fwy na 25 diwrnod y flwyddyn ar gyfartaledd dros dair blynedd
|
uchafswm cymedr 8-awr parhaus dyddiol |
Gronynnau (PM2.5) (grafimetrig) |
25 μg/m3 (canllaw WHO yw 10 μg/m3) |
cymedr blynyddol |