Tueddiadau - Dangosyddion Ansawdd Aer
Mae'r tudalennau hyn yn cyflwyno cyfres o graffiau sy'n dangos sut mae ansawdd aer wedi newid yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r ystadegau a ddangosir yn y graffiau hyn yn seiliedig ar fesuriadau a wnaed mewn safleoedd monitro awtomatig yng Nghymru. Mae cynlluniau'r Llywodraeth i sicrhau gwell ansawdd bywyd i bawb yn y DU yn cynnwys cyfres o Ddangosyddion Datblygu Cynaliadwy. Mae'r rhain yn cynnwys ystod o ddangosyddion sy'n seiliedig ar ansawdd aer:
- Crynodiad cymedrig blynyddol o nitrogen deuocsid.
- Crynodiadau cymedrig blynyddol o ddeunydd gronynnog y llygryddion (wedi'u mesur fel PM10), a'r oson.
Mae rhagor o wybodaeth am y dangosyddion ansawdd aer ar gael ar dudalen: Prif Ddangosydd Ansawdd Aer ar wefan Defra. Dyma gyfres o graffiau sydd wedi'u cyfrifo ar sail y ffigurau diweddaraf hyd at 2018 ar gyfer Ansawdd Aer yng Nghymru.