Mae llygredd aer yn digwydd pan fydd amrywiaeth o sylweddau’n cael eu rhyddhau i’r atmosffer o amrywiaeth eang o ffynonellau. Gall gael effaith tymor byr a thymor hir ar iechyd, ond hefyd ar yr amgylchedd ehangach. Mae ansawdd yr aer yng Nghymru ar hyn o bryd yn well nag y mae wedi bod ar unrhyw adeg ers cyn y Chwyldro Diwydiannol.
Mae’r gwelliannau hyn wedi’u cyflawni drwy gyflwyno deddfwriaeth yn gorfodi rheolaethau llymach ar allyriadau llygryddion o ffynonellau allweddol, sef diwydiant, hylosgi domestig a thrafnidiaeth. Fodd bynnag, er gwaethaf gwelliannau, mae llygredd aer yn cael ei gydnabod fel risg i iechyd o hyd, ac mae llawer o bobl yn poeni am lygredd yn yr aer maen nhw’n ei anadlu.
Mae ystadegau’r llywodraeth yn amcangyfrif bod llygredd aer yn y DU yn lleihau disgwyliad oes pawb 7-8 mis, gyda chost gysylltiedig o hyd at £20 biliwn y flwyddyn. Mae Deddfwriaeth a Pholisïau sy’n ceisio lleihau ymhellach ac olrhain effaith llygredd aer ar iechyd a’r amgylchedd wedi cael eu cyflwyno yn Ewrop, y DU a Chymru.
I gael rhagor o wybodaeth arbenigol am lygryddion a’u heffaith ar gynefinoedd a rhywogaethau, cyfeiriwch at System Gwybodaeth Llygredd Aer (APIS) y DU.